Mae heddlu wedi defnyddio nwy dagrau a bomiau mwg er mwyn ceisio ymdrin a thyrfaoedd sy’n protestio yn dilyn marwolaeth dyn croenddu yn St Louis, America.

Doedd Michael Brown, 18, ddim yn cario gwn nac unrhyw fath o arf pan gafodd ei saethu’n farw gan heddwas croenwyn.

Tra bo’r awdurdodau wedi addo y byddan nhw’n gwneud eu gorau i “ymestyn allan at y gymuned groenddu”, mae pobol gyffredin wedi’u cythruddo gan y digwyddiad.

Ond, ar strydoedd ardal Ferguson, mae’r heddlu wedi’u gwisgo mewn dillad reiat a helmedau, yn dod ben-ben a’r protestwyr sy’n siantio, “Hands up, don’t shoot”.