Fe all triniaethau arbrofol, sydd heb gael eu profi i fod yn ddiogel i bobol, gael eu cynnig i gleifion sy’n dioddef o’r afiechyd Ebola yng ngorllewin Affrica gyda chaniatâd.

Dyma un o argymhellion gan banel Sefydliad Iechyd y Byd, wrth i’r wlad wynebu’r achos fwyaf difrifol o Ebola mewn hanes.

Dywed y panel fod gwaith ymchwil wedi bod ar waith dros y degawd diwethaf i ddatblygu cyffuriau i daclo’r afiechyd, gyda rhai yn dangos “canlyniadau addawol” – ond nad ydyn nhw wedi cael eu profi ar bobol eto.

“O ystyried amgylchiadau difrifol yr afiechyd, ac os fydd amodau penodol yn cael eu cyrraedd, mae’r panel yn credu ei bod yn foesol i gynnig triniaethau arbrofol i gleifion,” meddai’r sefydliad iechyd mewn datganiad.

Lledaenu

Ar hyn o bryd, nid oes triniaeth ar gyfer Ebola.

Mae mwy na 1,000 o bobol wedi marw o’r clefyd, a ddechreuodd yn Guinea ym mis Mawrth.

Dyma’r enghraifft waetha’ o achosion o’r clefyd erioed ac mae wedi lledaenu i Sierra Leone a Liberia hefyd.

Bu farw offeiriad o Sbaen, Miguel Parajes, 75 oed, mewn ysbyty ym Madrid heddiw – y person cyntaf o Ewrop i farw. Yn ôl adroddiadau roedd wedi derbyn y driniaeth arbrofol er nad yw’r ysbyty wedi cadarnhau hynny.

Roedd Miguel Parajes wedi bod yn helpu i drin pobl gydag ebola mewn ysbyty yn Liberia pan gafodd ei daro’n wael a chafodd ei gludo yn ôl i Sbaen.