Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno i drafod pryderon trigolion Pillgwenlli ynglŷn â bwriad ymgyrchwyr gwrth-Nato i sefydlu gwersyll heddwch yn ystod uwch-gynhadledd Nato fis nesaf, heb ganiatâd y cyngor.

Mae disgwyl i grŵp No Nato ymgynnull ar gaeau chwarae ger Canolfan Mileniwm Pillgwenlli, sy’n eiddo i Gyngor Casnewydd o Awst 27 tan y penwythnos ar ôl y gynhadledd ar 3-5 Medi. Nid yw’n glir faint o bobol fydd ar y safle.

Ond yn ôl y cyngor, nid yw’r ymgyrchwyr wedi gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r tir.

‘Gwallgof’

Dywedodd yr Aelod Seneddol, Paul Flynn, ei bod yn “wallgof” bod grŵp No Nato yn disgwyl cael codi gwersyll heb ganiatâd a bod pryderon ymysg trigolion lleol y bydd y caeau yn cael eu difrodi.

“Mae’n nonsens llwyr ac yn wallgof fod yr ymgyrchwyr wedi rhoi gwahoddiad i bobol ar draws y byd ddod i Gasnewydd i brotestio,” meddai AS gorllewin Casnewydd.

“Mae’r safle yn agos iawn i dai, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan glybiau chwaraeon a phlant bron iawn bob diwrnod.

“Mae’r grŵp yn dweud eu bod nhw wedi bod yn curo ar ddrysau ac yn dosbarthu taflenni o gwmpas yr ardal, ond does neb wedi derbyn dim byd. Maen nhw ond wedi dweud eu bod nhw’n dod – ac felly’n disgwyl i drethdalwyr Casnewydd dalu am y peth.

“Nid pobol gyfrifol ydyn nhw, a dwi’n siŵr y bydd problemau difrifol yn digwydd os bydd y gwersyll yn cael ei sefydlu.”

Dryswch

Ar wefan No Nato, mae’r grŵp yn honni eu bod wedi derbyn caniatâd gan Gyngor Casnewydd a Heddlu De Cymru i sefydlu gwersyll heddwch, ond mae llefarydd ar ran y cyngor yn dweud y gwrthwyneb:

“Fe hoffai Gyngor Casnewydd bwysleisio nad yw protestwyr gwrth-Nato wedi gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r caeau chwarae.

“Er ein bod ni’n cydnabod bod gan bobol yr hawl i brotestio, rydyn ni’n deall pryderon pobol leol am y caeau, sy’n cael eu defnyddio gan y gymuned, felly byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ac yn cymryd camau i leihau’r effaith bosib.

“Fe wnaethon ni gwrdd gyda chynrychiolwyr i drafod y sefyllfa ond rhaid pwysleisio ei fod yn cael ei drefnu gan y protestwyr ac nid y cyngor, felly nid oedd yn ymgynghoriad. Yn sicr nid yw’r cyngor wedi cytuno i gynnal gwersyll heddwch yn Pill.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Pillgwenlli heno am 8 yh.