Credir fod panda yn Sw Caeredin yn feichiog a gall roi genedigaeth erbyn diwedd y mis.
Mae ceidwaid yn y sw wedi bod yn monitro Tian Tian ers mis Ebrill.
Dywedodd Iain Valentine, cyfarwyddwr pandas yn y sw: “Mae’r data gwyddonol diweddaraf yn awgrymu fod Tian Tian yn feichiog erbyn hyn, felly, efallai y bydd yn rhoi genedigaeth ar ddiwedd y mis.
“Mae hyn i gyd yn wyddoniaeth newydd a chymhleth iawn, ac mae tipyn o amser eto i fynd, oherwydd fel y llynedd, mae colli cenau yn hwyr yn parhau i fod yn gwbl bosibl.”