Mae Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân mewn ysgol ym Mhontycymer a ddinistriodd offer chwarae plant.

Digwyddodd y tân yn Ysgol Cwm Garw yn Hill View am oddeutu pump o’r gloch y bore ar ddydd Gwener, 8 Awst.

Cafodd ardal chwarae meddal a waliau dringo eu rhoi ar dân ac maen nhw wedi cael eu difrodi’n llwyr.

Meddai Rob Lewis o Heddlu De Cymru y bydd hi’n costio miloedd o bunnoedd i brynu offer newydd.

Ychwanegodd:  “Rwy’n annog unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd unrhyw beth amheus neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol i ddod ymlaen a’n helpu ni gyda’n hymchwiliad.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 1400290143 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111