Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i set o cyfflincs arbennig gael eu dwyn.

Cafodd y cyfflincs eu dwyn o dŷ ym Meisgyn pan oedd y teulu ar eu gwyliau. Fe wnaethon nhw ddychwelyd adref  ar 8 Awst i ddarganfod fod lladrad wedi bod.

Roedd y cyfflincs yn anrheg i dad y perchennog a oedd wedi eu derbyn ar ôl iddo chwarae rygbi i Gymru.

Mae’r cyfflincs yn cynnwys y tair pluen Gymreig a’r llythrennau ‘JPE’. Mae’r cyfflincs yn cael eu cadw mewn bocs bach pren.

Dylai unrhyw un sydd wedi gweld y cyfflincs gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod * 289,398.