Mae gohebydd trosedd papur newydd The Sun wedi cael ei gyhuddo  mewn cysylltiad ag ymchwiliad i honiadau o wneud taliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus.

Fe fydd Anthony France yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster ar 21 Awst, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Anthony France yn wynebu dau gyhuddiad o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus rhwng Mawrth 31, 2008 a Gorffennaf  1, 2011 a Gorffennaf 19, 2009 a 14 Awst, 2009.

Mae’r cyhuddiadau’n cael eu gwneud fel rhan o Operation Elveden Scotland Yard sy’n cael ei gynnal ynghyd a dau ymchwiliad arall – Operation Weeting, sy’n ymchwilio i honiadau o hacio ffonau ac Operation Tuleta, sy’n edrych ar honiadau o hacio cyfrifiaduron.