Mae pum cam pwysig i’r iaith Gymraeg   wedi’u cymryd eleni, yn ôl y mudiad amhleidiol Dyfodol i’r Iaith.

Dywedodd y Cadeirydd, Heini Gruffudd, fod y mudiad wedi cynnal trafodaethau mewn sawl maes –  gan gynnwys iechyd, addysg a radio – a bod pethau erbyn hyn wedi dechrau dwyn ffrwyth.

Y pum llwyddiant yn ôl Dyfodol i’r Iaith yw:

  • Sefydlu Endid Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Cynlluniau i sefydlu pedair Canolfan Gymraeg mewn pedair tref yng Nghymru
  • Posibilrwydd cael dwy sianel radio Cymraeg
  • Cyhoeddi canllawiau’r Llywodraeth ar ddefnyddio’r Gymraeg ym myd iechyd a gofal
  • Polisi addysg Sir Gâr, yn rhan o bolisi iaith pellgyrhaeddol y sir.

Ac yn ystod y mis nesaf, bydd y mudiad yn canolbwyntio ar sicrhau bod lle i’r iaith yn y Bil Cynllunio sy’n cael ei ystyried gan y Llywodraeth.

Cadarnhaol

“Rydyn ni wedi cael gwrandawiad cadarnhaol gan wleidyddion a gan sawl pwyllgor a chorff yn ystod y flwyddyn, ac mae’n dda gweld bod nifer o’n hawgrymiadau wedi cael eu derbyn,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Mae’r cyfan o’r pum cam yma’n ymwneud ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar a chreu amodau teg i gael siaradwyr newydd.”

“Mae’n allweddol bod y rhai fydd yn gyfrifol am weithredu’r camau hyn yn gwneud hynny’n effeithiol a gydag argyhoeddiad, fel bod modelau da o weithredu’n cael eu sefydlu.”