Mae Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi dyfarnu bod atal pleidlais i grŵp o garcharorion yn groes i’w hawliau dynol, er na ddylai unrhyw iawndal neu gostau gael eu talu.

Roedd yr achos gerbron y llys yn ymwneud a 10 o garcharorion a oedd wedi methu pleidleisio yn etholiadau Ewrop ar 4 Mehefin 2009.

Fe ddyfarnodd Llys Iawnderau Dynol Ewrop (ECHR) bod hyn yn mynd yn groes i’w hawliau dynol ond mae’r llys wedi gwrthod cais y carcharorion am iawndal a chostau cyfreithiol.

Dywedodd y barnwyr eu bod yn cydnabod bod camau wedi eu cymryd yn y DU yn ddiweddar gyda chyhoeddiad bil drafft ac adroddiad y Pwyllgor ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion, sy’n argymell caniatáu i garcharorion sydd wedi cael dedfryd o 12 mis neu lai i bleidleisio.

Serch hynny, meddai’r barnwyr, gan nad yw’r ddeddfwriaeth wedi newid, fe ddyfarnodd y llys bod y penderfyniad yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Ond mae’r Llywodraeth wedi osgoi gorfod talu am iawndal yn sgil cannoedd o achosion tebyg sydd gerbron ECHR.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir ei bod yn credu y dylai’r mater o ganiatáu i garcharorion bleidleisio gael ei benderfynu gan y DU.

Ychwanegodd bod y Llywodraeth yn “ystyried yn ofalus” argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion.