Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn, mae undeb yr NFU yn rhybuddio bod dyfodol ffermwyr yr ynys mewn peryg o ganlyniad i’r argyfwng dros brisiau cig eidion.
Mae ffermwyr cig eidion ledled Cymru wedi gweld gostyngiad ym mhrisiau’r cig sy’n cael ei werthu mewn siopau. Mae wedi disgyn o dros 64 ceiniog y cilo rhwng mis Ebrill 2013 a Mehefin 2014 ac yn golygu bod ffermwyr yn colli tua £250 ar bob anifail 400kg.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Stephen James: “Ar adeg lle mae prisiau fferm o dan bwysau mawr, allwn ni ddim gweld unrhyw gyfiawnhad i’r siopau fod yn cynyddu eu prisiau ar bob cilo o gig eidion.
“Fe ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar hybu gwerthiant cig Cymreig ar bob cyfle.”
Pwyslais
Ychwanegodd Christine Jones, Cadeirydd cangen NFU Cymru ar Ynys Môn, nad yw siopau yn rhoi digon o bwyslais ar gig sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
“Mae mwy o gig eidion yn cael ei allforio, yn benodol o Iwerddon yn 2014, ac rydym yn pryderu dros sut mae siopau yn gwahaniaethu rhwng y cynnyrch Cymreig, Prydeinig a’r cig sy’n cael ei allforio.
“Rydym ni eisiau mwy o ymdrech i hybu cig eidion Cymreig gan ddefnyddio’r label PGI i helpu cwsmeriaid i adnabod y cynnyrch o Gymru.”