Lesley Griffiths
Fe fydd £105,000 o gyllid ychwanegol yn cael ei roi i ddatblygu gwasanaethau ym maes trais rhywiol ar hyd a lled Cymru, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC.

Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng canolfannau Llwybrau Newydd yng Nghanolbarth a De Cymru (£50,000), Seren yn y Gorllewin (£10,000) a Cham wrth Gam (£20,000) a Chanolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (£20,000) yn y Gogledd.

A bydd £5,000 yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru – corff ymbarél y mae’r sefydliadau eraill yn aelodau ohono.

Mae’n cael ei roi er mwyn ymateb i’r cynnydd sylweddol yn y galw am gymorth sydd wedi bod yn y blynyddoedd diweddar, yn arbennig mewn perthynas ag achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol.

Fe fydd y cyllid hefyd yn mynd i’r afael a’r rhestrau aros hir o ddioddefwyr sy’n disgwyl am gymorth gan y canolfannau dan sylw.

Cynnydd yn y galw

Yn ôl Lesley Griffiths, un rheswm am y cynnydd diweddar yw’r nifer o brofiadau ac achosion llys proffil uchel sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau.

“Mae holl aelodau Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau, yn enwedig ar gyfer pobol sydd wedi goroesi achosion hanesyddol o gam-drin.

“Dyw’r cynnydd hwn ddim yn syndod o ystyried y nifer o brofiadau ac achosion llys proffil uchel sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau.

“Mae’n annhebygol iawn y bydd y galw hwn yn lleihau yn y dyfodol agos, felly mae’r cyllid hwn yn bwysig iawn – o ran darparu gwasanaethau uniongyrchol ar unwaith, a meithrin gallu ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r cymorth ariannol ychwanegol yn golygu bod y cyllid Llywodraeth Cymru i’r sector trais rhywiol yn 2014-15 yn codi o £75,000 i £180,000.