Cyflenwadau o fwyd a diod
Mae disgwyl i’r cyflenwad nesaf o gymorth dyngarol i ogledd Irac gael ei ddosbarthu o fewn y 24 awr nesaf, ar ôl i’r llu awyr (RAF) orfod rhoi’r gorau i’w hymdrech ddiweddaraf.

Fe geisiodd y llu awyr ollwng pecynnau cymorth o’r awyr i bobl ar Fynydd Sinjar yn oriau man y bore ma, ond bu’n rhaid rhoi gorau i’w hymdrechion oherwydd pryderon am ddiogelwch y bobol yno.

Mae Prydain wedi cychwyn gollwng cyflenwadau o fwyd a diod o’r awyr i filoedd o bobol sy’n ceisio cael lloches yng ngogledd Irac ar ôl dianc o diroedd sydd wedi cael eu meddiannu gan y grŵp Islamaidd eithafol IS (Islamic State).

Dywedodd llefarydd ar ran y llu awyr: “Mae ein hymdrech i ddosbarthu nwyddau i bobol sydd wir eu hangen yn parhau.

“Mae diogelwch y gymuned Yazidi yn holl bwysig i ni. Gan fod nifer o bobol ar y safle lle’r oeddem yn gollwng y nwyddau, fe benderfynodd y criw beidio â gollwng y pecynnau er mwyn sicrhau nad oedd bywydau’r rhai oedd yno yn cael eu rhoi mewn peryg.

“Rydym yn bwriadu gollwng y nwyddau nesaf cyn gynted ag sy’n bosib.”