Mae Gweinidog y Swyddfa Dramor, Mark Simmonds, wedi ymddiswyddo o’r Llywodraeth ac wedi cyhoeddi y bydd na fydd yn sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw ymadawiad y Gweinidog dros Affrica yn dilyn ymddiswyddiad y Farwnes Warsi o’r Swyddfa Dramor wythnos diwethaf mewn protest yn erbyn polisi’r Llywodraeth ar Gaza.

Dywedodd Downing Street bod ymadawiad Mark Simmonds “wedi ei gytuno” rai wythnosau yn ôl ond bod y cyhoeddiad wedi ei ohirio er mwyn caniatáu iddo  gadeirio sesiwn y Cenhedloedd Unedig ar y sefyllfa yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Yn ei lythyr ymddiswyddiad, dywedodd AS Boston a Skegness y byddai’n “parhau i fod yn gefnogol” i’r Llywodraeth a’r Blaid Geidwadol.

Dywedodd y Prif Weinidog fod gan Mark Simmonds “lawer mwy i’w roi” a’i fod wedi bod yn “gydweithiwr hynod ffyddlon, ond hefyd yn ffrind da”.

Bydd yr AS Torïaidd, James Duddridge, yn cymryd lle Mark Simmonds yn y Swyddfa Dramor.

Mewn datganiad, dywedodd Mark Simmonds ei bod hi wedi bod yn “bleser enfawr ac yn fraint” i wasanaethu ei etholaeth.

Ond ychwanegodd: “Er gwaethaf y mwynhad a boddhad personol rwyf wedi ei gael yn y rôl hon, mae’r diffyg cymorth sydd ar gael i ASau sydd gyda theuluoedd y tu allan i Lundain, a’r aberth i fy mywyd teuluol, wedi dod yn annioddefol.

“Ar hyn o bryd, mae angen i mi ganolbwyntio ar ddarparu ar gyfer fy nheulu. “