Arthur Jones
Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Arthur Jones, y gŵr 73 oed fu farw ar ynys Creta, gael ei gynnal yn Rhuthun yn ddiweddarach heddiw.
Daethpwyd o hyd i gorff Arthur Jones o Ddinbych yn pwyso ar goeden ar dir garw yn y wlad yr wythnos diwethaf.
Roedd wedi bod ar goll ers 19 Mehefin, ddeuddydd wedi iddo gyrraedd Ynys Creta ar ei wyliau.
Bu chwilio helaeth amdano ac roedd ffrindiau ac aelodau o’i deulu wedi teithio i’r ynys i helpu’r ymdrechion.
Roedd Arthur Jones yn gyn-filwr ac yn gerddwr profiadol ond mae ei deulu’n credu y gallai fod wedi gorboethi yn y gwres.