Mae teithiwr ar awyren a laniodd ym Maes Awyr Manceinion, gydag awyren y Llu Awyr yn ei hebrwng, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiad bom ffug.

Cafodd pryderon eu codi gan y peilot bod “dyfais posibl” ar yr awyren wrth iddi nesáu at y maes awyr. Roedd yr awyren yn teithio o Doha, Qatar.

Mae llygad dystion wedi dweud bod yr heddlu wedi arestio’r dyn ar awyren Qatar Airways ar ôl iddi lanio yn ddiogel.

Llai nag awr ar ôl yr adroddiadau cyntaf, cadarnhaodd Heddlu Manceinion eu bod nhw wedi arestio dyn  ar amheuaeth o wneud bygythiad bom ffug.

Roedd 269 o deithwyr a 13 o staff ar fwrdd yr awyren.

Dywedodd maes awyr Manceinion bod naw awyren arall wedi cael eu dargyfeirio i feysydd awyr eraill, gyda phump o’r rheiny yn glanio ym maes awyr Leeds Bradford.

Dywedodd llefarydd bod rhywfaint o oedi gyda theithiau o’r maes awyr ond bod pethau bellach yn dychwelyd i’r drefn arferol.