Mae o leiaf 392 o bobl wedi marw mewn daeargryn a darodd ardal Ludian yn Tsieina ddoe.
Mae mwy na 1,800 wedi eu hanafu ac mae 30,000 o bobl wedi cael eu symud o’r ardal.
Cafodd tua 12,000 o gartrefi eu dinistrio yn y daeargryn tua 4:30 brynhawn dydd Sul. Mae ardal Ludian tua 230 milltir i’r gogledd o brifddinas Yunnan, Kunming.
Mae’n debyg bod y daeargryn yn dipyn gwaeth na’r un a darodd yr un ardal yn 2012 pan fu farw 81 o bobl.
Mae disgwyl i nifer y meirw godi, unwaith y bydd timau achub yn cyrraedd yr ardal.
Ym mis Mai 2008, fe wnaeth daeargryn yn nhalaith Sichuan ladd bron i 90,000 o bobl.