Bydd y Brifysgol Agored yn lansio gwefan newydd heddiw sy’n cynnig cyfle i bobl astudio am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd OpenLearn Cymru yn cynnig mwy fyth o adnoddau i ddysgwyr Cymraeg eu hiaith.
Mae OpenLearn Cymru yn adeiladu ar lwyddiant gwefan OpenLearn y Brifysgol Agored sy’n cynnig dros 700 o gyrsiau am ddim ac sy’n denu dros bum miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae OpenLearn Cymru yn cynnig cyrsiau am ddim ac adnoddau o ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys hanes Cymru; sgiliau a chyflogadwyedd; gwaith cymdeithasol a seicoleg.
Dywedodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru: ”Mae OpenLearn Cymru yn cynnig y cyfle i ddysgwyr sydd am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg fanteisio ar ystod eang o gyrsiau a deunydd am ddim o’r Brifysgol Agored.
”Rydym yn falch o allu cynnig arbenigedd y Brifysgol Agored mewn dysgu ar-lein a dysgu o bell ym maes addysg cyfrwng Cymraeg a darparu cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr newydd.”
Mae OpenLearn Cymru ar gael i’w weld yn: www.open.edu/openlearncymru