Mae daeargryn cry’ wedi taro gorllewin China, gan amharu ar gysylltiadau. Does dim adroddiadau o anafiadau na marwolaethau eto.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod daeargryn yn mesur 6.1 wedi taro talaith Yunnan heddiw, a bod y canolbwynt rhyw 6 milltir o dan-ddaear.

Mae’r sianel deledu Chineaidd, CCTV, yn dweud fod y daeargryn wedi effeithio ar eu llinellau mewn rhai ardaloedd.

Ym mis Medi 2012, fe gafodd 81 o bobol eu lladd, a mwy na 821 eu hanafu, mewn cyfres o ddaergrynfeydd yn ardal Yunnan.