Mae diwrnod o ymladd am reolaeth tros faes awyr Tripoli wedi lladd 22 o bobol, yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth dros dro Libya.

Mewn datganiad heddiw, mae’n dweud fod “grwpiau arfog” wedi bod yn ymosod ar “dargedau a phobol gyffredin”, gan roi miloedd o fywydau mewn peryg a chan adael cannoedd o deuluoedd yn ddigartre’.

Mae’r 22 o bobol ddiweddara’ i gael eu lladd yn ychwanegol at y 200 sydd wedi’u lladd yn y wlad dros yr wythnosau diwetha’.

Mae Libya yn diodde’r trais gwaetha’ ers 2011, pan gododd y bobol yn erbyn y cyn-unben, Muammar Gaddafi.

Gwrthryfelwyr Islamaidd o ddinas arfordirol Misrata sy’n arwain y cyrch ar y maes awyr, gan geisio herio’r gwrthryfelwyr o dre’ Zintan sydd wedi’i feddiannu ar hyn o bryd.

Mae’r gwrthryfelwyr yn cynnwys nifer o’r rheiny a lwyddodd i oresgyn Gaddafi gyda chymorth NATO.