Mae dynes wedi’i chyhuddo o yfed a gyrru, ac o yrru’n beryglus, wedi i’w char fynd ar ei ben i dafarn yn Sir Ddinbych.

Roedd Volkswagen Polo y ddynes wedi mynd trwy wal Bar 236 ym Mhrestatyn, gan lanio yn lolfa’r dafarn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau y bydd yr yrwaig yn ymddangos gerbron ynadon ar Awst 26.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.