Mae Israel wedi taro nifer o dargedau yn Gaza heddiw, wrth i’r milwyr troed ddechrau ar gyrchoedd mewn rhai llefydd ar hyd y ffin.

Daw hyn ddiwrnod wedi i lywodraeth y wlad gyhoeddi eu bod nhw’n ail-afael yn eu bwriad i feddiannu’r tiroedd.

Heddiw, mae adeiladau swyddfeydd uchel wedi’u bomio yng nghanol Dinas Gaza, ac mae swn ffrwydro mawr i’w glywed.

Hyd yma heddiw, mae 30 o Balesteiniaid wedi’u lladd, yn cynnwys naw mewn un ymosodiad yn ne Llain Gaza.

Mae Israel wedi cadarnhau ei bod eisoes wedi cynnal 180 o ymosodiadau heddiw.

A thra bod yr ymladd yn parhau, mae nifer o danciau a cherbydau rhyfel eraill yn perthyn i Israel wedi’u gweld yn gadael Gaza.