Mae ofnau bod cymaint a 150 o bobol wedi’u claddu dan dirlithriad yng ngorllewin India, a hynny’n dilyn cyfnod o law trwm.
Mae’r awdurdodau yn ardal Pune yn nhalaith Maharashtra wedi cadarnhau fod y tirlithriad wedi gorchuddio tua 40 o gartrefi ym mhentre’ Ambe.
Mae timau achub ar eu ffordd i’r ardal, ond mae cyflwr gwael y ffyrdd wedi amharu tipyn arnyn nhw, ynghyd a mwy o law trwm.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar glirio’r pridd.