Bomio'n parhau, meddai Benjamin Netanyahu
Mae Israel wedi parhau â’i hymgyrch fomio wrth daro canolfan gyfryngol sydd yn cael ei ddefnyddio gan Hamas.

Roedd yr adeilad a darwyd yng nghanol Gaza City yn cynnwys sianel deledu a gorsaf radio oedd yn cael ei redeg gan Hamas, yn ogystal â sianeli lloeren Arabaidd eraill.

Mae’n dilyn diwrnod arall o ymladd a welodd naw o blant yn cael eu lladd pan laniodd bom ar barc chwarae yn Gaza – ac mae’r ddwy ochr wedi beio’i gilydd am y digwyddiad.

Mae prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu bellach wedi rhybuddio pobl Israel i baratoi am ryfel “estynedig”, gan awgrymu fod yr ymladd am ddwysau.

Tanciau

Fe barhaodd tanciau Israel i saethu ardaloedd yn rhannau o Gaza yn agos i’r ffin, gydag adroddiadau fod pump wedi’u lladd gan gynnwys tri o blant, a 50 wedi’u hanafu yn nhref Jebaliya.

Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, nawr wedi mynegi pryder ynglŷn ag adroddiadau fod yr Israel yn gollwng pamffledi’n rhybuddio pobl i ddianc o’u cartrefi funudau cyn iddyn nhw eu bomio, gan ddweud y byddai hyn yn cael “effaith ddyngarol enbyd pellach”.

Mae’r ymladd yn parhau er gwaethaf pwysau rhyngwladol am gadoediad wrth i ŵyl Fwslimaidd Eid el-Fitr ddechrau ddoe.

Dinistrio’r twneli

Dywedodd Israel na fyddwn nhw’n gadael Gaza nes eu bod nhw wedi dinistrio’r twneli o dan y ffin y mae Hamas yn ei ddefnyddio i gludo arfau a mynd i mewn i Israel, tra bod Hamas yn mynnu eu bod nhw am barhau i ymladd nes y cawn nhw warant y bydd y blocâd ar Gaza’n dod i ben.

Yn ôl Israel maen nhw’n targedu safleoedd y mae Hamas yn ei ddefnyddio gyda’u bomiau nhw, ond mae rhwystredigaeth gynyddol yn yr UDA bellach dros y nifer o Balestiniaid sydd wedi’u lladd – o leiaf 1,072, gyda 6,450 wedi’u hanafu a’r mwyafrif o’r rheiny’n sifiliaid yn ôl Hamas.

Mae lluoedd arfog Israel yn dweud fod 52 o’u milwyr nhw, dau sifiliad a gweithiwr o Wlad Thai wedi’u lladd ar eu hochr nhw.