Mae llywodraeth yr Ariannin yn ceisio dod i gytundeb â chredydwyr yn yr Unol Daleithiau er mwyn osgoi ddiffygdalu am yr ail waith o fewn 13 mlynedd.
Dim ond diwrnod sydd i fynd nes y terfyn amser, pan fydd disgwyl i’r Ariannin ddod i gytundeb ar sut y byddwn nhw’n talu eu dyledion.
Mae dirprwyaeth o’r Ariannin yn Efrog Newydd heddiw i geisio dod i gytundeb ar y mater, ond yn ôl adroddiadau dydyn nhw heb eto gytuno i gyfarfod wyneb yn wyneb â’r rhai sydd yn mynnu ad-daliad ar y ddyled.
Fe brynodd y credydwyr Americanaidd, wedi’u harwain gan Paul Singer o NML Capital, fondiau ariannol yr Ariannin yn rhad ac yna gwrthod cynnig y llywodraeth i ailstrwythuro’r ddyled ar ôl i’r wlad ddiffygio o $100biliwn (£59bn) ar ei thaliadau nôl yn 2001.
Maen nhw nawr yn mynnu fod yr arian sydd yn ddyledus iddyn nhw, rhyw $1.5biliwn, yn cael ei dalu yn ôl yn syth.
Erbyn yfory mae’n rhaid i’r Ariannin dalu credydwyr eraill yn ôl neu wynebu sefyllfa o ddiffygdalu, ond mae barnwr yn yr UDA wedi’u gwahardd nhw rhag talu’r dyledion hyn oni bai eu bod nhw hefyd yn talu’r ddyled i NML.
Mae’r Ariannin eisoes yn dioddef o ddirwasgiad, gyda phrinder mawr o ddoleri ac un o’r cyfraddau chwyddiant mwyaf yn y byd.
Ond yn ôl llywodraeth y wlad, ni fyddai diffygdalu ar ei dyledion ar hyn o bryd yn debygol o effeithio bywydau dydd i ddydd y rhan fwyaf o bobl y wlad.
Un o brif amcanion yr arlywydd Cristina Fernandez yw delio â’r ddyled oedd gan y wlad yn dilyn ei chwymp economaidd yn 2001, ac mae’n bosib y gallai methiant yr wythnos hon fod yn ergyd i’w gobeithion o gael ei hailethol.