Mae trigolion dinas Mosul yn Irac yn dweud mai aelodau o’r grwp gwrthryfelgar Islamic State sydd wedi dinistrio mosg hanesyddol.

Fe gafodd Mosg y Proffwyd Jirjis ei fomio yn hwyr nos Sul, y diweddara’ mewn cyfres o fannau cysegredig i gael eu targedu yn yr ardal.

Fe ddechreuodd Islamic State ar ymgyrch ymosodol yng ngogledd a gorllewin Irac y llynedd, ac maen nhw’n rheoli Mosul ers mis Mehefin.

Ymysg y mosgiau i gael eu chwalu yn Mosul yr wythnos ddiwetha’ yr oedd Mosg y Proffwyd Sheeth a Mosg y Proffwyd Younis (neu Jonah), lle y credir fod y Proffwyd wedi’i gladdu.