Mae dyn 20 oed wedi marw ar ôl i fellt daro 14 o bobol ar draeth poblogaidd a chwrs golff yn Los Angeles.

Mae crwner Los Angeles County, Larry Dietz, wedi cadarnhau fod y dyn wedi’i gludo oddi ar draeth Venice, a’i fod wedi marw erbyn cyrraedd yr ysbyty.

Fe gafodd cyfanswm o naw o bobol eu cludo i ysbytai gwahanol oherwydd y mellt, ac mae un ohonyn nhw’n parhau mewn cyflwr difrifol iawn.

Fe gawson nhw eu taro wrth i stormydd mellt a tharanau anghyffredin sgubo trwy Dde Califfornia dros y Sul.