Mae lluoedd arfog Israel wedi ymosod ar Lain Gaza, sy’n cael ei rheoli gan Hamas, gan fomio bron i 100 o safleoedd.
Maen nhw hefyd wedi casglu milwyr at ei gilydd ar gyfer ymosodiad posibl ar y ddaear er mwyn atal ymosodiadau roced yn erbyn Israel.
Meddai’r fyddin mai pwrpas yr ymgyrch yw targedu aelodau o’r grŵp Islamaidd, Hamas, er mwyn dod a’r ymosodiadau roced ar Israel i ben.
Daw’r ymosodiad wedi i densiynau ddwysau yn dilyn llofruddiaeth tri llanc Israelaidd, a llofruddiaeth bachgen Palesteinaidd.
Mae bron i 300 o rocedi wedi cael eu tanio at Israel yn yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys bron i 100 ohonyn nhw ddoe.
Mae’r digwyddiadau diweddar yn dod wedi blynyddoedd o dawelwch cymharol a ddilynodd ymgyrch gan Israel i gael gwared ag arfau Gaza.
Mae Israel wedi ymateb gyda dwsinau o ymosodiadau o’r awyr a chafodd wyth o filwyr Palesteinaidd eu lladd ddoe.