Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cyhoeddi mai’r cyn-farnwr Elizabeth Butler-Sloss, 80, fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol i honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Fe fydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar honiadau o gam-drin a ddigwyddodd mewn sefydliadau a chyrff cyhoeddus fel y BBC, pleidiau gwleidyddol ac eglwysi. Mae’r Ysgrifennydd Cartref hefyd wedi penodi pennaeth yr NSPCC, Peter Wanless, i arwain ymchwiliad i bryderon fod y Swyddfa Gartref wedi methu a delio hefo honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Elizabeth Butler-Sloss wnaeth gadeirio ymchwiliad Cleveland i honiadau o gam-drin plant yn yr 80au, ac mae hi’n gyn-lywydd o adran deuluol yr Uchel Lys.

Dywedodd Theresa May: “Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld achosion ofnadwy o gam-drin plant sydd wedi dangos methiannau difrifol gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau pwysig.

“Dyma’r rheswm fod y Llywodraeth wedi sefydlu panel o arbenigwyr annibynnol i ystyried os yw’r sefydliadau wedi cymryd eu cyfrifoldeb o warchod plant o ddifrif.”

Holi

Daw’r cyhoeddiad wrth i brif was sifil y Swyddfa Gartref, Mark Sedwill, baratoi i gael ei holi gan Aelodau Seneddol ynglŷn â’r ffordd yr oedd yr adran wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant dros gyfnod o 20 mlynedd.

Ychwanegodd Theresa May: “Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn diweddariad o waith y panel yn y Senedd cyn mis Mai’r flwyddyn nesaf.”