Oes gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ganlyniadau’r Cyfrifiad pan mae’n dod at drafod dyfodol yr iaith Gymraeg?
Mae’n gwestiwn a gododd ei ben unwaith eto dros y penwythnos, wrth i Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas ymddangos ar raglen The Politics Show brynhawn Sul.
Dywedodd yr AC ei bod hi’n bryd rhoi stop i’r ‘darogan gwae’ am y Gymraeg, ac nad oedd ffigyrau’r Cyfrifiad yn dangos dim ond symudiad poblogaeth.
Mewn ymateb dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod ystadegau’r Cyfrifiad yn dangos rhai pethau pwysig yn ymwneud â’r iaith, a bod y mudiad yn ceisio awgrymu camau positif allai gael eu cymryd yn sgil hynny.
Dydd Gwener diwethaf fe gynhaliwyd Cynhadledd Weithredol gan Gymdeithas yr Iaith er mwyn trafod sut i ymateb i rai o ganlyniadau’r Cyfrifiad, blwyddyn ers Cynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru.
Mae’r mudiad iaith wedi cyhuddo Carwyn Jones o beidio â gweithredu’n ddigonol i ddiogelu’r iaith yn sgil y gynhadledd honno’r llynedd.
Dangosodd Cyfrifiad 2011 gwymp yn y canran o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, o 20.5% i 19%.
Yn nhermau niferoedd fe ddangosodd y canlyniadau ostyngiad o 20,000, gyda’r cyfanswm yn cwympo o 580,000 i 560,000 mewn degawd.
Ond a oes gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ffigyrau’r Cyfrifiad pan mae’n dod at yr iaith Gymraeg? Ai beth sy’n bwysig yw bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn y cymunedau ble y siaredir hi?
Neu ai ffigyrau 2011 yw’r dystiolaeth gliriaf fod angen gweithredu nawr os yw’r iaith Gymraeg am gael ei chadw ar gyfer cenedlaethau i ddod?