Mae llys yn Iran wedi dedfrydu dyn o’r wlad oedd yn ysbïo ar ran Prydain i ddeng mlynedd o garchar.

Cafodd dyn arall o Iran bum mlynedd o garchar am ysbïo ar ran Israel yn yr un achos yn nhalaith Kerman.

Clywodd y llys fod y dyn gafodd ei ddedfrydu i ddeng mlynedd wedi  “cyfnewid gwybodaeth gyda phedwar swyddog gwybodaeth o Brydain”.

Roedd yr ail ddyn wedi pasio gwybodaeth ymlaen i swyddog diogelwch yn llysgenhadaeth Israel yng Ngwlad Thai.