Gwyn Jones
Sylwebydd rygbi S4C sy’n dweud ei ddweud ar drothwy’r gêm fawr yn Ne Affrica yfory…

O ddifri’, beth all Warren Gatland ei wneud mewn cyfnod o wythnos?

Mae wedi hyfforddi tîm rygbi Cymru ers chwe blynedd, gan lynu at ei athroniaeth. Mae hynny wedi arwain at lwyddiant mawr yn y gorffennol

Felly, hyd yn oed os oedd am newid y dull chwarae, does dim llawer y gall wneud dros ychydig o sesiynau hyfforddi i drawsnewid Cymru.

Ni fydd chwarae mewn arddull fwy corfforol yn gweithio y tro hwn, fel y gwnaeth i Gatland yn ystod cyfres prawf y Llewod yn erbyn Awstralia’r haf diwethaf.

Ni fydd Cymru yn gallu ennill y frwydr gorfforol yn erbyn y Springboks.

Er mwyn cael unrhyw obaith o guro De Affrica, fe fydd angen tactegau hollol wahanol ac mae’n amhosibl newid patrwm y chwarae dros nos.

Rwy’n croesawu’r penderfyniad i ddewis Samson Lee. Bydd Adam Jones yn cael ei ystyried yn arwr oes i Gymru, ond nid yw’r cyfreithiau sgrymio newydd yn ei siwtio ac mae’n amser am waed newydd.

Dan Lydiate yw un o amddiffynwyr gorau’r byd. Ond mae angen iddo gael dimensiwn arall i’w gêm er mwyn bod yn flaen asgellwr cyflawn rhyngwladol.

Mae blaenasgellwyr ochr dywyll fwyaf blaenllaw’r byd hefyd yn gallu bygwth rhedwyr a dwyn meddiant yn y dacl. Yn absenoldeb Warburton, mae angen mwy fyth o hynny gan Lydiate.

Y tu ôl i’r sgrym yr wyf yn credu y dylai Gareth Davies fod wedi cael ei ddewis yn lle Mike Phillips fel mewnwr. Roedd yn llawn egni pan ddaeth ar y cae ac roedd Mike Phillips yn ymddangos yn araf ac ansicr o’i gymharu ag e’.

Byddwn yn erfyn ar y tîm hyfforddi unwaith eto i newid eu strategaeth cicio.

Oni bai, wrth gwrs, mai pwrpas y strategaeth yw gwneud i gefnwyr y gwrthwynebwyr edrych cystal â Serge Blanco.

Roedd cefnwyr fel Rob Kearny, Mike Brown neu yn wir Willie Le Roux wrth eu bodd â’r dacteg.

Cicio gwael

Mae ystadegau yn dangos bod timau eraill yn cicio mor aml â Chymru. Ond mae safon y cicio yn llawer gwell.

Mae cicio hir lawr y canol y cae yn ein lladd ni. A allwch feddwl am dactegau gwahanol plîs?

Fe all Cymru adennill rhywfaint o barch yn yr Ail Brawf gan nad oedden nhw hyd yn oed yn gystadleuol yn Durban.

Roedd De Affrica mor gyfforddus ar y blaen fel eu bod yn chwerthin ac yn jocian yn ystod yr hanner cyntaf ac nid ydynt yn enwog am eu synnwyr digrifwch.

Ar gyfer y prawf hwn, rhaid i Gymru chwarae gyda thân yn eu boliau a gwneud i’r Springboks ymladd am bob modfedd o dir.

Rwy’n credu y gall Cymru gynnig mwy o brawf i’r Boks y tro hwn ond rwy’n ofni mai colli fydd ein hanes unwaith eto.

Bydd y gwaith caled yn dechrau pan ddaw’r daith i ben. Rhaid i Gymru edrych ar eu holl dactegau cyn Cwpan y Byd 2015.

Mae yna elfennau o’r chwarae y gallwn eu cadw ond mae angen i’r tîm newid eu tactegau yn sylfaenol neu fel arall dwi ddim yn credu y byddan nhw’n mynd ymhellach na’r gemau grŵp.

Uchafbwyntiau’r ornest ar S4C nos yfory am naw.