Bydd Morgannwg yn croesawu Swydd Surrey i Stadiwm Swalec heno yn dilyn yr ornest gyffrous rhwng y Cymry a Swydd Gaint nos Wener diwethaf.

Ennill tair a cholli dwy fu hanes yr ymwelwyr yn y gystadleuaeth hon y tymor yma, ac maen nhw’n dod i Gymru’n dilyn buddugoliaeth swmpus o 10 wiced yn erbyn Siarcod Swydd Sussex ar yr Oval yr wythnos diwethaf.

Mae Morgannwg yn y trydydd safle hyd yn hyn.

Un fuddugoliaeth yr un gafodd y ddwy sir yn erbyn ei gilydd yn y T20 yng Nghaerdydd hyd yma.

Mae carfan yr ymwelwyr yn cynnwys nifer o fawrion y byd criced rhyngwladol, gan gynnwys Hashim Amla a Robin Peterson o Dde Affrica, Azhar Mahmood o Bacistan a chyn-seren Lloegr Kevin Pietersen.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby (capten), M Wallace, C Cooke, S Walters, B Wright, D Sammy, G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan, R Smith a W Owen.

Carfan 13 dyn Swydd Surrey: G Wilson (capten), Hashim Amla, Z Ansari, G Batty, T Curran, S Davies, J Dernbach, M Dunn, K O’Brien, Azhar Mahmood, R Peterson, K Pietersen, J Roy