Samson Lee i ddechrau dros Gymru am y tro cyntaf yfory
Mae Cymru yn wynebu De Affrica am yr eildro yfory gydag un o sêr y byd rygbi yn mynnu nad oes ganddyn nhw obaith caneri.

Dim ond dau newid sydd i’r tîm a gollodd yn erbyn y Boks y penwythnos diwethaf, er gwaethaf galwadau am wynebau newydd i fod yn y tîm.

Collodd Cymru 18-36 yn y prawf cyntaf ac maen nhw’n gobeithio gwneud yn iawn am y golled yn Nelspruit brynhawn yfory.  Mae cyn-asgellwr Awstralia David ‘Campo’ Campese, sydd wedi ennill 101 o gapiau drso ei wlad, wedi trydaru yn dweud na fydd Cymru yn curo De Affrica nac ychwaith unrhyw dîm o hemisffêr y De.

Mae yna nifer o gwestiynau wedi codi o ran ffitrwydd tîm Cymru yn ôl Campese.

‘‘Does dim esgusodion.  Rydych yn cynrychioli eich gwlad, os nad ydych yn 100% rhowch y crys i chwaraewr arall,’’ ychwanegodd Campese.

Bydd y prop Samson Lee yn dechrau am y tro cyntaf i Gymru gan ddisodli’r prop profiadol Adam Jones, a Josh Turnbull fydd yn dod oddi ar y fainc i ddechrau yn safle’r blaen-asgellwr.  Mi fydd y Capten Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 80.

Meddai Warren Gatland: ‘‘Rydym wedi bod yn hapus gydag ymateb y chwaraewyr yn ystod ymarfer yr wythnos yma, ac yn gweld dydd Sadwrn fel cyfle i gywiro rhai camgymeriadau o’r penwythnos cynt.”