Yn y ddeufis ddiwetha’ mae o leiaf 68 o eliffantod wedi cael eu lladd ym Mharc Cenedlaethol Garamba yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Mae hynny’n tua pedwar y cant o boblogaeth eliffantod un o barciau hynaf Affrica.

Yn ôl adroddiadua mae un grŵp o botswyr yn saethu’r eliffantod gyda reifflau ar hofrenyddion ac yna’n defnyddio llifau cadwyn i dorri eu cyrn yn rhydd.

“Mae’r sefyllfa yn ddifrifol iawn,” meddai rheolwr parc Garamba, Jean-Marc Froment. “Mae’r parc o dan ymosodiad o bob cyfeiriad.”

Gwaethygu fu sefyllfa’r eliffantod dros y degawdau diwethaf. Canfu cyfrifiad ym 2012 mai 2,000 eliffant yn unig oedd ym Mharc Garamba, lawr o 20,000 yn yr 1960au.

Arian mewn ifori

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod grwpiau yn Affrica wedi troi at botsian ifori er mwyn cael arian i fyw.

Yn ôl rhai twf y farchnad ifori yn Asia sy’n gwaethygu’r broblem potsio eliffantod yn Affrica.

Er bod potsio cyffredinol i’w weld yn dirywio o ganlyniad i well cyfreithiau, mae’n debyg bod 20,000 o eliffantod wedi eu lladd y flwyddyn ddiwethaf.