Barack Obama
Mae’r ffaith bod Barack Obama a Hilary Clinton wedi dweud eu bod nhw’n erbyn annibyniaeth i’r Alban, yn hwb i’r ymgyrch o blaid hynny.
Dyna farn Alex Salmond sy’n dweud nad ydy’r Albanwyr yn hoffi pobol yn dweud wrthyn nhw beth i’w wneud.
Mae Hilary Clinton wedi dweud y byddai hi’n “casau” gweld Prydain yn “colli’r Alban” ac mae Obama o’r farn bod y Deyrnas Unedig i weld wedi “gweithio’n eithaf da”.
Wrth gael ei holi am ddylanwad sylwadau’r ddau ar etholwyr Yr Alban, dywedodd Alex Salmond:
“Yn hynny o beth eu bod nhw’n ddylanwadol, rydw i’n amau eu bod nhw’n cynorthwyo’r ymgyrch ‘Ie’…nid yw’r Albanwyr yn hoffi rhywun yn dweud wrthyn nhw beth i’w wneud.”