Cymru o'r gofod (llun: Ysgol Gymraeg Aberystwyth)
Mae disgyblion cynradd Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi llwyddo i gael lluniau o Gymru o’r awyr ar ôl lansio taith ofod gyda balŵn tywydd llawn heliwm.
Gyda chymorth arbenigwr mewn roboteg o Brifysgol Aberystwyth, fe wnaeth y disgyblion adeiladu roced a chreu pobol fach o glai i deithio ynddi.
Mae’r lluniau, gafodd eu tynnu o uchder o 26,382.45 metr, yn cynnwys golygfeydd o Aberystwyth, canolbarth Cymru, Bae Ceredigion, Penrhyn Llŷn, de orllewin Lloegr, ac un o’r falŵn dywydd wrth iddi rwygo a’r parasiwt agor.
Dywedodd Dr Mark Neal, cydlynydd Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus Prifysgol Aberystwyth a fu’n cynorthwyo’r disgyblion: “Mae’r data a’r lluniau sydd gennym o’r daith yn golygu fod y cyfan wedi bod yn werth chweil.
“O safbwynt technegol, rwy’n rhyfeddu bod popeth wedi mynd cystal, y lansiad a sut mae’r offer ar fwrdd y capsiwl wedi gweithio.”
Gallwch weld galeri o rai o’r lluniau a dynnwyd yma:
Created with flickr slideshow.