Mae cynllun i godi tâl am barcio ar y Sul ac ymestyn yr oriau parcio tan naw yr hwyr yn ystod yr wythnos wedi corddi cynghorwyr a thrigolion yn nhref Caerfyrddin.
Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny bydd y cynllun yn gwneud “bywyd yn anodd iawn i bobol” ac mae’n gwneud cam gwag â gyrwyr y dref.
Er mwyn ceisio arbed £31 miliwn dros y dair blynedd nesaf, cyhoeddodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod am godi tâl i barcio ar y Sul yn ogystal ag ymestyn yr oriau codi tâl parcio hyd at naw y nos. Mae’r cyngor hefyd wedi cymeradwyo cynnydd o 4.7% yn nhreth y cyngor.
“Bydd codi tâl parcio yn gwneud bywyd yn anodd iawn i bobol, yn enwedig pobol oedrannus sy’n dymuno parcio yn agos i ganolfannau fel theatrau, capeli ac eglwysi ar ôl iddi nosi,” meddai Alun Lenny ar ran y chwe chynghorydd sir Plaid Cymru sy’n cynrychioli Tref Caerfyrddin.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin bod cynyddu’r costau yn dal i olygu fod y cyngor yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yng Nghymru a bod costau parcio ym Mangor 450% yn uwch.
‘Godro mwy fyth o arian’
Ychwanegodd Alun Lenny: “Bydd codi tâl ar ddydd Sul yn gam mên iawn, fydd yn dod ag ychydig o elw ariannol i’r cyngor.
“Mae’r cyngor yn godro mwy fyth o arian o yrwyr sy’n parcio yng Nghaerfyrddin ac mae’n debygol o arwain at fwy o barcio ar linellau melyn dwbl yn y dyfodol.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu heno am chwech yng Ngwesty’r Boar’s Head yng Nghaerfyrddin i glywed barn y cyhoedd.