Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi ymddiheuro ar ôl i unigolion o fewn y blaid yn Lerpwl fynegi dicter ynghylch ei benderfyniad i gael tynnu ei lun gyda chopi o The Sun.

Bu’r papur newydd yn hynod o amhoblogaidd yn Lerpwl a’r ardaloedd cyfagos yn sgîl ei ymdriniaeth o drychineb Hillsborough, lle bu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed.

Fe gafodd Ed Miliband dynnu ei lun gyda rhifyn arbennig o The Sun sydd wedi ei ddosbarthu i bob cartref yn Lloegr – ac eithrio Lerpwl ac ardaloedd cyfagos – er mwyn dathlu’r wlad ar gychwyn Cwpan y Byd.

“Roedd Ed Miliband yn hyrwyddo ymgais Lloegr i ennill Cwpan y Byd ac yn falch o wneud hynny,” meddai llefarydd.

“Ond mae’n deall y dicter a deimlir tuag at The Sun gan lawer o bobl dros Hillsborough ac mae’n ymddiheuro.”

Drwgdeimlad

Daw ymddiheuriad Miliband ar ôl i’r AS Steve Rotheram a maer dinas Lerpwl Joe Anderson gyhuddo arweinydd Llafur o fethu gwerthfawrogi’r drwgdeimlad tuag at y papur yn yr ardal.

“Mae fy ninas wedi’i sarhau gan y celwyddau mae The Sun wedi eu lledaenu,” meddai Joe Anderson. “Mae’n peri’r cwestiwn – yw’r sylwadau a wnaed Miliband ar ôl adroddiad panel Hillsborough yn diffuant neu’n soundbites yn unig?”