Pencadlys Cyngor Gwynedd
Mae cwmni adeiladu mwyaf Gwynedd wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o wastraffu arian trethdalwyr trwy wrthwynebu prosiectau datblygu newydd.

Fe ddywedodd Mark Watkin Jones, rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni o Fangor, nad yw cynghorwyr yn cydnabod gwerth a photensial y cwmni i ddatblygu’r economi leol.

Mae wedi cyhoeddi na fydd y cwmni’n buddsoddi mewn prosiectau datblygu yng Ngwynedd yn y dyfodol, a diffyg gweledigaeth y cyngor sydd wrth wraidd hynny yn ôl Mark Watkin Jones.

Bydd y cwmni yn parhau i weithio fel contractwyr i Gyngor Gwynedd, ar brosiectau fel yr un gwerth  £4.8 miliwn i adeiladu ysgol newydd ger y Groeslon (gan nad yw hynny’n cynnwys ceisiadau cynllunio).

‘Rhwystredig’

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi llawer o arian ac amser mewn ceisiadau cynllunio i greu datblygiadau newydd yng Ngwynedd,” meddai Mark Watkin Jones.

“Ond mae’r ceisiadau hyn yn cael eu gwrthod – er bod y swyddogion yn eu cymeradwyo. Mae’n rhwystredig ac yn wastraff llwyr o arian y trethdalwyr.

“Mae’n anffodus nad yw’r cynghorwyr yn gwerthfawrogi nac yn deall yr effaith mae hyn yn ei gael ar fusnes ac ar yr economi leol.

“Rydym felly wedi penderfynu buddsoddi mewn ardaloedd sydd eisiau ein buddsoddiad ac sydd eisiau gweld datblygiad.

‘90% o’r ceisiadau yn cael eu derbyn’

Mewn ymateb, dywedodd Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, ac mae Cyngor Gwynedd yn ymdrin â phob cais cynllunio yn unigol ar y rhinweddau hyn.

“Mae rhai ceisiadau cynllunio yn cael eu penderfynu gan y Cynghorwyr sydd yn eistedd ar Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, ac sydd yn derbyn hyfforddiant cyson ar faterion cynllunio. Mae Swyddogion yn cynhyrchu adroddiadau cynllunio manwl ar bob cais sydd yn cael ei adrodd i Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol mae’n rhaid i’r pwyllgor ei ystyried cyn gwneud penderfyniad.

“Mae oddeutu 90% o’r ceisiadau cynllunio a gaiff eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd yn derbyn cymeradwyaeth cynllunio ac mewn achosion lle wrthodir caniatâd cynllunio, mae gan ymgeiswyr yr hawl i apelio’r penderfyniad.”