Elin Jones AC Ceredigion
Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wella economi gorllewin Cymru er mwyn diogelu’r iaith Gymraeg yn yr ardal, yn ôl yr Aelod Cynulliad Elin Jones.

Wrth gyfeirio at adroddiad diweddar, dywedodd yr AC dros Geredigion ei bod yn cefnogi’r syniad o fuddsoddi rhagor mewn ‘ardaloedd tyfiant’ megis Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaernarfon-Bangor.

Cafodd adroddiad dan gadeiryddiaeth Rhodri Llwyd Morgan a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Cyfrifiad 2011 ei gyhoeddi llynedd.

Ymysg eu hargymhellion roedd mesurau i gryfhau economi trefi fel Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaernarfon-Bangor, fel rhan greiddiol o unrhyw strategaeth i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg.

Datganiad ar ei ffordd

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi dweud y bydd yn gwneud datganiad ar bolisi iaith y Llywodraeth mewn ymateb i Gyfrifiad 2011 yn fuan, gan addo ymateb i’r adroddiad erbyn yr haf.

Ac yn ôl Elin Jones, mae angen i’r Prif Weinidog gymryd golwg ehangach ar bolisi ieithyddol a rhoi blaenoriaeth i gyfleoedd swyddi i bobl ifanc mewn ardaloedd trefol.

“Yn ei adroddiad i’r Prif Weinidog, nododd Rhodri Llwyd Morgan bwysigrwydd ardaloedd tyfiant i gryfhau economi cadarnleoedd y Gymraeg yn y gorllewin, gan enwi Caerfyrddin, Aberystwyth a Chaernarfon-Bangor yn benodol,” meddai Elin Jones.

“Mae rhai o’r ardaloedd hyn wedi gweld buddsoddiad gan y Llywodraeth yn y gorffennol, ond mae’r rhaglenni yma bellach wedi dod i ben.

“Rwy’n annog y Prif Weinidog i fabwysiadu syniad Rhodri Llwyd Morgan, a rhoi cynllun buddsoddiad yn ei le i annog canolfannau twf fel rhain, er lles economi gorllewin Cymru ac er lles tymor hir yr iaith Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.