Dave Brailsford yn dringo Drws y Coed yn Etape Eryri y llynedd
Mae disgwyl i 1,300 o feicwyr feddiannu lonydd Eryri ddydd Sul, ar gyfer sportiff – sef her feicio – Etape Eryri.
O saith y bore, bydd y beicwyr yn cymryd rhan mewn tair gwahanol ras, gyda phob un yn cychwyn ac yn gorffen ar Y Maes yng Nghaernarfon ac yn tywys y seiclwyr drwy galon Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd y Cymro Dave Brailsford, prif hyfforddwr tîm Sky sy’n wreiddiol o Ddeiniolen, yn cymryd rhan ac mae wedi annog unrhyw un sy’n mwynhau seiclo i roi tro arni.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y cwmni o Lanberis Camu i’r Copa, ac er mai dim ond yn 2012 y cafodd Etape Eryri ei lansio am y tro cyntaf, yn ôl y trefnwyr mae’n mynd o nerth i nerth.
‘Digwyddiad ffantastig’
Dywedodd Dave Brailsford: “Dylai unrhyw un sy’n meddwl am wneud unrhyw ddigwyddiad ddod i wneud hwn – mae am fod yn ffantastig.
“Mae gan y digwyddiad bopeth sydd ei angen – y golygfeydd, y cyfleusterau, y ffyrdd a’r croeso.
“Fysan ni ddim yn gallu gwneud beth ydan ni’n wneud yn nhîm Sky heb gefnogaeth digwyddiadau fel hyn, heb i bobol fod yn cymryd rhan ac yn mynd ar ei beic – mae’n hanfodol.”
Y llwybrau
Mae’r trefnwyr yn cynnig tri llwybr gwahanol yn ogystal â llwybr i’r teulu:
- Etape Bach – llwybr o 47 milltir.
- Etape Canol – yn 76 o filltiroedd
- Etape Mawr – 103 milltir o anghenfil ar darmac, yn ôl y trefnwyr.
- Etape Teulu – 6.5 milltir i’r teulu.
Maylion llawn: http://etapeeryri.com/