Roger Lewis
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi mynegi siom fod y BBC wedi “rhoi’r ocsigen” i wrthwynebwyr yr Undeb ledaenu eu neges, ddyddiau cyn cyfarfod cyffredinol arbennig.
Yn ôl Roger Lewis, fe fyddai’n “drychinebus” petai yna bleidlais o ddiffyg hyder gan y clybiau yn yr Undeb yn y cyfarfod hwnnw – ond mae’n hyderus na fydd hynny’n digwydd.
Mae’r anghydfod rhwng yr Undeb a rhai o glybiau rygbi Cymru wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd, gydag arweinydd yr ymgyrch yn erbyn yr Undeb, David Moffett, yn llwyddo i ddenu cefnogaeth 43 o glybiau ar gyfer y cyfarfod cyffredinol arbennig.
Ond yr wythnos hon daeth tro annisgwyl wrth i Moffett ddiflannu ac awgrymu na fyddai’n parhau i ymgyrchu bellach.
‘Cic lan y pen-ôl’
Mewn sylwadau wrth ohebydd y BBC, fe awgrymodd Lewis nad oedd gwrthwynebwyr yr Undeb wedi cael eu ffeithiau’n gywir ynglŷn â’r materion ariannol.
Dywedodd hefyd fod y gorfforaeth yn haeddu “cic lan y pen-ôl” am roi cyhoeddusrwydd i’r sylwadau hynny.
“Os ydych chi eisiau i mi ddweud ie [mae’n gic lan y pen-ôl] wedyn fe ddywedai ie wrthych chi,” meddai Lewis.
“Ond beth rwy’n flin yn ei gylch yw eich bod chi yn y BBC wedi rhoi ocsigen i bobl ledaenu pethau anaddas a ffeithiol anghywir sydd ddim yn sefyll lan i archwiliad newyddiadurol.
“Mae’r data ariannol sydd wedi’i gyhoeddi, sydd wedi bod yn gwrthddweud ei hun dros yr wythnosau diwethaf, yn nonsens.”
Dywedodd Lewis fod y ffrae eisoes wedi achosi niwed mawr i rygbi yng Nghymru, ac mae Cadeirydd URC David Pickering eisoes wedi gofyn i glybiau “sicrhau nad yw’r rhai drygionus yn cael eu ffordd”.
Beirniadu’r Undeb
Yn gynharach yn yr wythnos cafwyd beirniadaeth lem o Undeb Rygbi Cymru gan newyddiadurwr The Guardian Paul Rees, a ddywedodd wrth golwg360 eu bod yn rhoi pwysau ar y cyfryngau.
Neithiwr fe ddaeth datganiad oedd yn honni i ddod gan griw o wirfoddolwyr a chefnogwyr David Moffett, yn ategu’r alwad ar i glybiau wrthwynebu’r Undeb yn y cyfarfod cyffredinol ym Mhort Talbot ddydd Sul.
Dyw Moffett heb ddweud unrhyw beth ers y neges ar ei wefan ddydd Mawrth yn dymuno pob lwc i bawb yn y cyfarfod ac mai dyma’r olaf fyddwn ni’n clywed ganddo.
Yn y datganiad mae’r ‘gwirfoddolwyr’ yn honni fod ymgyrch Moffett eisoes wedi sicrhau llu o enwau adnabyddus yn y byd rygbi fydd yn barod i “helpu chi [y clybiau] i gymryd URC yn ôl” unwaith y bydd y Bwrdd presennol yn cael ei ethol allan.