Neymar
Roedd dwy gôl gan Neymar ac un gan Oscar yn ddigon i arwain Brasil i fuddugoliaeth o 3-1 yng ngêm agoriadol Cwpan y Byd – ond nid cyn i Groatia eu dychryn nhw.
Gyda’r Estadio Sao Paulo dan ei sang wrth i’r tîm cartref agor y gystadleuaeth, a’r anthem yn cael ei floeddio gan y Brasiliaid, roedd hi’n edrych fel mai nhw oedd â thân yn eu boliau.
Ond dechreuodd Croatia yn gryf ac o fewn ddeg munud roedden nhw ar y blaen, wedi i Nikica Jelavic gyffwrdd croesiad Ivica Olic o’r chwith, ac amddiffynnwr Brasil Marcelo’n medru gwneud dim wrth i’r bêl wyro oddi arno i mewn i’r rhwyd.
Parhaodd y ddau dîm i chwarae pêl-droed agored yn yr hanner cyntaf wrth i’r frwydr barhau yng nghanol cae.
Ac ar ôl hanner awr o chwarae roedd y crysau melyn yn gyfartal, wrth i seren y Brasiliaid Neymar dderbyn y bêl rhyw 30 llathen o’r gôl cyn brasgamu ymlaen a tharo ergyd isel heibio i Stipe Pletikosa.
Felly’r oedd hi ar yr egwyl, ac ar ddechrau’r ail hanner roedd y ddau dîm yn cael trafferth creu rhythm yn eu chwarae.
Cic o’r smotyn
Ond ar ôl 70 munud daeth yr ail i Frasil, Neymar yn rhwydo o’r smotyn ar ôl penderfyniad hynod ddadleuol gan y dyfarnwr Yuichi Nishimura o Siapan fod Fred wedi cael ei dynnu lawr gan Dejan Lovren.
Er hynny, bu bron i Neymar fethu wrth i Pletikosa ddyfalu’r ffordd gywir, ond methu a chael llaw digon cryf i’r bêl.
Doedd y gêm ddim ar ben wedi hynny, gyda Chroatia’n rhoi’r bêl yn y rhwyd ond y dyfarnwr yn dweud bod trosedd wedi bod ar golwr Brasil Julio Cesar.
Ac wrth i’r cloc gyrraedd amser ychwanegol fe seliwyd y canlyniad, wrth i Oscar redeg drwy ganol amddiffyn Croatia a tharo’r bêl heibio i Pletikosa am y drydedd.
Gemau heno
Mecsico v Cameroon (5.00yp)
Sbaen v Yr Iseldiroedd (8.00yh)
Chile v Awstralia (11.00yh)