Mae arlywydd newydd Yr Aifft, Abdel-Fattah el-Sissi wedi ymddiheuro i ddynes a ddioddefodd ymosodiad rhywiol yn ystod digwyddiad swyddogol.

Roedd el-Sissi yn cael ei urddo mewn seremoni arbennig pan ymosododd criw o ddynion ar y ddynes.

Mae’r ddynes wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Cairo.

Roedd hi’n un o nifer o fenywod oedd wedi dioddef yn sgil ymosodiadau tebyg yn ystod y digwyddiad dros y penwythnos.

Dywedodd el-Sissi wrthi: “Rwy wedi dod i ddweud wrthoch chi a phob dynes Eifftaidd arall fy mod i’n flin.

“Rwy’n ymddiheuro i bob dynes Eifftaidd.

Roedd cannoedd o lysgenhadon lleol a rhyngwladol yn bresennol yn y digwyddiad.

Dywedodd el-Sissi fod ymosodiadau o’r fath yn annerbyniol.

“Rwy’n dweud wrth y llysoedd fod ein henw ni’n cael ei bardduo ar y strydoedd a dydy hynny ddim yn iawn.

“Nid yw’n dderbyniol, hyd yn oed os mai un achos ydyw.”

Roedd eisoes wedi galw am ostyngiad yn nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu cyflawni yn y wlad, ac am adferoedd gwerthoedd cymdeithas y genedl.

Mae nifer yr achosion o droseddau rhyw, yn enwedig yn Sgwâr Tahrir yn y brifddinas, wedi cynyddu ers i’r cyn-Arlywydd Hosni Mubarak gael ei ddisodli flwyddyn yn ôl.

Ddydd Llun, cafodd saith o ddynion rhwng 15 a 49 eu harestio mewn perthynas â honiadau o gyflawni troseddau rhyw ddydd Sul.

Mae tri wedi’u cyhuddo o ymosod yn rhywiol ac o geisio treisio.