Raquel Louise Davies a gafodd ei lladd yn y ddamwain
Mae dyn 20 oed o Donyrefail wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth cwpl ifanc drwy yrru’n beryglus yn dilyn damwain ffordd ddifrifol yn Gilfach Goch.

Bu farw Lee Jenkins, 25, a Raquel Louise Davies, 23, wedi i gar BMW wyro oddi ar y ffordd yn Gilfach Goch fore Sadwrn diwethaf. Roedd y ddau wedi dyweddïo ac roedd ganddyn nhw fabi bach naw wythnos oed.

Mae Corey Davies, brawd Raquel Louise Davies, yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 30 Mehefin.

Mae’r heddlu’n apelio unrhyw un a oedd yn teithio mewn cerbydau eraill ar adeg y ddamwain – yn benodol car Renault Clio tywyll neu gar Citroen Picasso arian sydd wedi eu gweld ar CCTV – i gysylltu â nhw ar 101.