Mae beiciwr yn dwyn achos yn erbyn Cyngor Gwynedd wedi iddo gwympo oherwydd tyllau yng nghanol y ffordd.

Roedd Melvyn Griffiths o Flaenau Ffestiniog wedi colli rheolaeth ar ei feic a dioddef anafiadau i’w ben yn 2009.

Ceisiodd yn aflwyddiannus am iawndal y llynedd, ond fe fydd e’n cyflwyno’i achos i’r Llys Apêl yn Llundain.

Yn ôl ei gyfreithiwr, roedd y twll rhwng 80 a 100 milimedr o ddyfnder ac mae’n dadlau y dylai’r Cyngor Sir fod wedi’i drwsio o fewn 24 awr.

Yn y gwrandawiad gwreiddiol, roedd y Cyngor Sir wedi dadlau bod y beiciwr wedi bod yn teithio’n rhy gyflym i lawr yr allt.

Does dim dyddiad am y gwrandawiad hyd yn hyn.

Yn gynharach eleni, cafodd partneriaeth ei sefydlu rhwng Gwynedd ac Ynys Môn i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd, ac i annog teithwyr i fod yn wyliadwrus.

Prif neges yr ymgyrch oedd y dylai beicwyr fod yn fwy gweladwy ar y ffyrdd ac y dylai gyrwyr ceir gadw o leiaf 1.5 metr o fwlch rhyngddyn nhw a beiciau.

Wrth gyhoeddi’r ymgyrch ym mis Ionawr, dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts o Gyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydyn ni’n awyddus i annog mwy o bobol i feicio, nid yn unig at ddiben hamdden ond fel ffordd o fynd o A i B.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth fedrwn ni i sicrhau diogelwch beicwyr ar ffyrdd Gwynedd, gan fod ganddyn nhw gymaint o hawl i fod ar y ffyrdd ag unrhyw un arall.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Gan fod hwn yn fater cyfreithiol byw, ni fyddai’n briodol i’r Cyngor ddarparu sylw.”