Mark Drakeford
Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru yn gwario mwy nag erioed ar ofal i gleifion canser, yn ôl ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ffigyrau ar gyfer 2012-13 yn dangos bod gwariant y Llywodraeth wedi codi o £356.8 miliwn i £360.9 miliwn. Dangosir hefyd bod gwariant ar bob claf wedi cynyddu o £116.4 yn 2011 i £117.4 yn 2012-13.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, mae hyn £10 yn fwy na sy’n cael ei wario ar gleifion yn Lloegr.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dod o dan y lach gan Lywodraeth Prydain sawl gwaith yn ddiweddar, gyda David Cameron yn dweud fod Clawdd Offa yn “ffin rhwng byw a marw”.
Gwelliant
Er beirniadaeth Cameron, mae Mark Drakeford yn dweud mai Cymru sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf o wledydd Prydain ers datganoli a bod 97% o gleifion canser y wlad yn meddwl fod y gofal maen nhw’n ei dderbyn yn dda.
“Rwy’n benderfynol o sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn cael y gofal o’r ansawdd uchaf,” meddai’r gweinidog.
“Mae’r ffigyrau yn dangos ein bod yn gwario mwy nag erioed ar ofal canser yng Nghymru wrth i ni fuddsoddi mewn triniaeth sydd wedi ei brofi i fod yn effeithiol.
“Fe ddangosodd arolwg diweddar yn y British Journal of Cancer nad yw Lloegr yn hwyluso mynediad i feddyginiaeth o’i gymharu hefo Cymru.
“Mae hyn yn brawf bod y GIG yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn triniaeth effeithiol sydd am ddod a buddion iechyd clir i gleifion sy’n dioddef o bob math o salwch.