Madeleine McCann
Mae heddlu o Brydain sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann ym Mhortiwgal saith mlynedd yn ôl, wedi cychwyn archwilio safle newydd gyda chwn arbenigol.
Cafodd yr ardal, sydd tua 15 munud y tu allan i dref lan mor Praia da Luz yn yr Algarve, ei gau i ffwrdd gan yr heddlu’r bore ‘ma.
Mae dau gi o Heddlu De Cymru yn cael eu defnyddio yn yr ymchwilid. Cafodd y cwn hefyd eu defnyddio yn ystod y chwilio am April Jones, y ferch fach gafodd ei llofruddio ym Machynlleth yn 2012.
Yn ôl adroddiadau, roedd graffiti sy’n gwawdio’r teulu McCann a Heddlu Prydain wedi ei baentio ar wal gyfagos i’r ardal chwilio.
Roedd Madeleine yn dair oed pan ddiflannodd yn ystod gwyliau gyda’i theulu yn Praia da Luz ym mis Mai 2007.
Bu timau arbenigol yn archwilio rhan arall o’r ardal yr wythnos diwethaf gan ddefnyddio offer radar tanddaear, ond ar ôl methu a dod o hyd i dystiolaeth newydd, gofynnwyd i gael ymestyn yr ymchwiliad am saith diwrnod.