Mae swyddogion o Heddlu Dyfed Powys fu’n ymchwilio i honiad bod aelod o staff wedi ymosod ar blentyn yng Nghylch Meithrin Cefneithin a Gorslas yn Sir Gaerfyrddin, wedi cadarnhau na fydd yr ymchwiliad yn mynd ymhellach.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oes digon o dystiolaeth i brofi bod trosedd wedi ei chyflawni.
Roedd yr heddlu wedi bod yn cydweithio gydag aelodau o’r Bwrdd Diogelu Plant Lleol ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ymchwilio i’r honiad a ddaeth i law ar 28 Mai.
“Fe wnaeth swyddogion gynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr i’r mater, ond nid oedd digon o dystiolaeth i brofi bod trosedd wedi digwydd er mwyn parhau a’r erlyniad,” meddai llefarydd.