Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod disgwyl i gorwynt sydd wedi ffurfio ger arfordir Mecsico ffyrnigo o fewn y dyddiau nesaf.
Mae gwyntoedd o 75 mya wedi eu cofnodi hyd yn hyn, yn ôl Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yr UD.
Ffurfiwyd Corwynt Cristina tua 265 milltir i’r de o Manzanillo ac mae’n symud i’r gorllewin ar gyflymder o 6 mya.
Ychwanegodd arbenigwyr y gall beryglu bywydau.